top of page
StPadrig.JPG

Sant Padrig, Cemaes

Adeiladwyd a chysegrwyd Eglwys 'newydd' Sant Padrig (neu Patrick) ym 1865 ym mhentref Cemaes, yn ystod cyfnod lle bu lawer o adeiladu eglwysi ar draws yr Ynys. Roedd nifer o eglwysi hynafol wedi dadfeilio neu bellach yn bell o'r man lle'r oedd mwyafrif y plwyfolion yn byw. Hefyd, roedd safle Eglwys Llanbadrig ar clogwyn yn ei gwneud yn anodd cael mynediad yn ystod tywydd gwael, gyda angladdau hyd yn oed yn cael eu gohirio ar brydiau.

 

Dyluniwyd yr eglwys newydd yn yr arddull Saesneg Cynnar gan Henry Kennedy, pensaer a anwyd yn Llundain yn y 19eg ganrif a wnaeth lawer o waith i Esgobaeth Bangor dros gyfnod o 50 mlynedd. Yn y 1990au ychwanegwyd ystafell blwyf ar ochr ogleddol yr eglwys, gan ddarparu cyfleusterau cegin a thoiled.

 

Mae'r gwydr lliw mân yn y ffenestr ddwyreiniol yn dangos Sant Padrig, yn ogystal â Sant Deiniol (Esgob cyntaf Bangor) a Dewi Sant (nawddsant Cymru, a gysegrodd Deiniol yn esgob yn 545). Ym mhen gorllewinol yr eglwys mae triptych o olygfeydd efengyl, a arferai sefyll y tu ôl i'r allor.  Mae'r gwrych o amgylch tir yr eglwys dros 100 oed, ar ôl cael ei blannu ym 1911.
 

Mae'r wybodaeth hon hefyd yn ymddangos ar Explore Churches, gwefan Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi.

​

LLEOLIAD

LL67 0HU

Am fwy o wybodaeth ewch i Explore Churches, gwefan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol.

LLEOLIAD

 

LL67 0LG

what3words: clawdd.soser.arafiad

AMSEROEDD AGOR:

Amseroedd agor:  Pob dydd Sadwrn a dydd Sul:  11am - 4pm 
 

bottom of page