top of page
IMG_3730.JPG

Santes Fair, Llanfair yng Nghornwy

Os dilynwch yr arwyddbost i lawr y ffordd drac sengl o'r A5025, byddwch yn dod i le wedi'i drwytho mewn distawrwydd sy'n cael ei dorri'n unig gan swn yr adar a'r gwynt yn y coed. Yno fe ddewch o hyd i Eglwys y Santes Fair, Llanfairynghornwy, gem gudd rhestredig Gradd I yng ngogledd orllewin Ynys Môn. Er bod y dyddiadsefydlu gwreiddiol wedi'i golli, mae rhannau hynaf yr adeilad (waliau'r corff a'r bwa rhwng y corff a'r cangell) yn dyddio o'r 11eg neu'r 12fed ganrif.

 

Trowyd y porth gwreiddiol yn festri ac felly rydych yn mynd i fewn i'r eglwys trwy ddrws cul yn y twr o'r 17eg ganrif. Wrth symud tuag at y gangell (a ailadeiladwyd yn y 15fed ganrif), sylwch ar y bylau lliwgar yn y nenfwd. Roedd rhain yn rhodd gan y bardd RS Thomas a fu nid yn unig yn addoli yma am gyfnod yn ystod ei ymddeoliad ond hefyd wedi priodi ei ail wraig, Betty Vernon yn yr Eglwys.

 

Yn y pen dwyreiniol, mae'r eglwys yn agor allan yn annisgwyl i olau a gofod Capel Mynachdy ('tŷ capel y mynachod'), a adeiladwyd ar ddechrau'r 16eg ganrif gyda charreg o adfeilion hen gapel yn Cader Mynachdy ger Trwyn y Gadair (Carmel Head). Mae un o'r tri bwa yn cynnwys arysgrif Lladin, SCA MARIA ORA PRO ME DAVID A JACO ('Santes Fair yn gweddïo drosof David ap Iago'), tra bod un arall yn dwyn pen carreg cerfiedig syml.

 

Mae cofebion eglwysig yn cynnwys coffáu Evan Thomas, y gosodwr esgyrn a sylfaenydd llinach o ymarferwyr medrus, a daeth un ohonynt yn llawfeddyg orthopedig enwog. Mae plac hefyd i'r Parchg James Williams a'i wraig Frances, sylfaenwyr Cymdeithas Achub Bywyd Ynys Môn (daeth yn rhan ddiweddarach o'r RNLI).

 

Ar ol longddrylliad yn 823 ar ynys gyfagos Mae'n y Bugail (West Mouse)  140 o fywydau, addawodd y cwpl ddarparu bad achub yn Cemlyn ac yna yng Nghaergybi. Yn arlunydd talentog, gwerthodd Frances brintiau o'i gwaith i godi arian, tra derbyniodd James fedal aur ym 1835 am ei ymdrechion achub bywyd. Fe'u claddwyd ym mynwent yr eglwys, fel y mae eu gor-wyr, yr arlunydd clodwiw Kyffin Williams.

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd yn ymddangos ar safle we ExploreChurches, gwefan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol.

LLEOLIAD

LL65 4LH

what3words: rhed.lluoswch.llafariaid

I gael rhagor o wybodaeth a lleoliad yr Eglwys hon ewch i'r Explore Churches, gwefan Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi lle gallwch ddod o hyd i fap yn dangos lleoliad yr eglwys.

AMSEROEDD AGOR:
Mae'r Eglwys bob amser ar agor.

DSC_2035.jpg
bottom of page