top of page
IMG_3711.JPG

 Sant Mechell, Llanfechell

Wedi lleoli yng nghanol pentref bach, heddychlon, mae eglwys wyngalchog St Mechell wedi'i chysegru i genhadwr o'r chweched ganrif y gellir ei hadnabod hefyd fel Malo. Bedyddiwyd y sant Cymreig hwn gan Sant Brendan ac aeth ymlaen i sefydlu eglwysi yn Llydaw a sefydlodd dinas Saint-Malo. Credir iddo gael ei gladdu yn Sir Fon, ger ei eglwys.

 

Mewn llawysgrif o'r 17eg ganrif, mae cerdd Gymraeg yn dweud sut y cafodd Mechell, wrth ddiolch am iachâd gwyrthiol, gynnig tir yng ngogledd Ynys Môn. Yn ol yr hanes, cafodd ffiniau y fynachlog  eu creu gan ysgyfarnog wedi'i ryddhau, a dyna lle wedyn sefydlwyd y fynachlog. Dywedwyd iddi ddod yn ganolfan ddysgu enwog erbyn yr 8fed ganrif. Er ei foderneiddio, mae adeilad presennol yr eglwys (a restrir yn Radd II *) yn dyddio'n rhannol o'r 12fed ganrif, gydag ychwanegiadau yn y 13eg, 14eg a'r 16eg ganrif. Dywed traddodiad fod y dôm nodedig ar y tŵr wedi'i adeiladu i lleihau canu'r gloch oherwydd bod y sŵn yn suro'r cwrw yn bragdy'r pentref (lle mae TÅ·'r Capel bellach yn sefyll).

Mae'r ffabrig a'r dodrefn hanesyddol yn cynnwys ffont o'r 13eg ganrif, ffenestr o wydr canoloesol wedi'i adfer, a chofeb i William Bulkeley o Brynddu, yswain o'r 18fed ganrif y disgrifiwyd ei ddyddiaduron bywiog o fywyd lleol fel 'perfect treasure-houses of allusion and incident'. Mae aelodau mwy diweddar o deulu Brynddu yn cael eu coffáu mewn ffenestri lliw eraill.

 

Yn y naill wal neu'r llall o'r gant mae'r hyn a allai fod yn 'oleuadau gwahanglwyfus'. Roedd y ffenestri bach hyn (heb eu gorchuddio yn wreiddiol) yn caniatáu i wahangleifion gymryd rhan mewn gwasanaethau heb gymysgu â'r gynulleidfa. Mae'r porth (sy'n dyddio'n ôl i'r canol oesoedd) yn dal slab carreg hynafol ac addurnedig ond anhysbys fel arall, yn debyg i'r math o gaeadau a ddefnyddir ar gyfer eirch claddedigaethau mynachaidd. A allai hyn fod wedi bod ar gyfer claddu Mechell ei hun?

 

Bydd mynd am dro o amgylch y fynwent sy'n cael ei gadw mewn cyflwr da yn datgelu rhai cofebion diddorol gan gynnwys nifer o feddau rhyfel (mae mwy o fanylion yn y tywyslyfr, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg) ac olion hen groes y pentref.  Hefyd, o bryd i'w gilydd gall ymwelwyr lwcus cael cipolwg ar wiwerod coch yn helpu eu hunain o'r blwch bwydo sydd wedi'i osod ar un o'r coed ywen!

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd yn ymddangos ar safle we  ExploreChurches, gwefan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol.

LLEOLIAD

LL68 0PY

what3words: dinasyddion.olewau.sefydlogi

I gael rhagor o wybodaeth a lleoliad yr Eglwys hon ewch i'r Explore Churches, gwefan Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi lle gallwch ddod o hyd i fap yn dangos lleoliad yr eglwys.
 

 

AMSERAU AGOR:
Mawrth i Hydref: 10am i 4pm bob dydd; adegau eraill trwy drefniant gyda Mary Hughes (07788 842009).

92242401_2320266334933293_52754331333893
bottom of page