top of page

BEDYDD, PRIODASAU AG ANGLADDAU

124962012_2498924353734156_7677864537013
Wedding Bouquet
IMG_3681.JPG

BEDYDD

Mae croeso i'ch plentyn cael ei bedyddio yn eich eglwys leol felly os ydych chi'n byw ger un o eglwysi Bro Padrig (neu os oes gennych chi gysylltiad teuluol cryf), cysylltwch â'r Parch Naomi i ddarganfod mwy.

PRIODASAU

Os ydych yn byw yn Ardal Weinidogaeth Bro Padrig (ac wedi gwneud am o leiaf chwe mis), gallwch briodi yn unrhyw un o'n heglwysi. Os nad ydych chi'n byw'n lleol ond hoffech chi  briodi yma, mae angen bod gennych cysylltiad ag un o'r eglwysi. Mae nifer o ffyrdd  gallwch dangos hyn, felly cysylltwch â'r Parch Naomi a fydd yn falch o drafod y mater gyda chi.

ANGLADDAU

Mae 10 mynwent yn Ardal Weinidogaeth Bro Padrig ond nid yw pob un ar agor ar gyfer angladdau (er y gallai fod yn bosibl defnyddio bedd teuluol sy'n bodoli eisoes). Os yw rhywun yn byw yn Ardal y Weinidogaeth (neu os ydynt yn marw yma), mae' r hawl ganddynt i gael eu claddu yn un o'r mynwentydd. Gweler isod gwybodaeth ynglyn a threfniadau claddu.

LLEOLIADAU MYWENTYDD

 

  • Eglwys Cemaes : mae claddu a gladdedigaeth lludw yn digwydd ym mynwent y Rhyd.

  • Eglwys Llanfechell: ar agor ar gyfer newydd a claddu lludw.

  • Eglwys Llanbadrig : ar gau i gladdedigaethau newydd er y gellir ailagor beddau teulu a chladdu lludw.

  • Eglwys Llanfflewin: ar agor ar gyfer claddedigaethau newydd a gladdedigaeth lludw.

  • Eglwys Llanrhwydrys: ar agor ar gyfer claddedigaethau newydd a gladdedigaeth lludw.

  • Eglwys Llanfaethlu: ar agor ar gyfer claddedigaethau newydd a gladdedigaeth lludw.

  • Eglwys Llanfairnynghornwy: ar agor ar gyfer claddedigaethau newydd a gladdedigaeth lludw.

 

Mae'r mynwentydd canlynol ar agor er bod adeiladau'r eglwys ar gau:

  • St Mary's, Bodewryd: ar agor ar gyfer claddedigaethau newydd a gladdedigaeth lludw.

  • St Rhuddlad, Llanrhuddlad (Porth Swtan): ar agor ar gyfer claddedigaethau newydd a claddu lludw.

  • St Peirio, Rhosbeirio: ar agor ar gyfer claddedigaethau newydd a gladdedigaeth lludw.

  • St Mary & St Mwrog, Llanfwrog: ar gau i gladdedigaethau newydd er y gellir ailagor beddau teulu a chladdu lludw.

bottom of page