top of page

Yn uchel ar glogwyni creigiog gogledd Ynys Môn, dywedir bod eglwys restredig Gradd II Sant Padrig yn un o'r hynaf yng Nghymru. Mae ei darddiad yn gorwedd mewn stori ddramatig o longddrylliad o tua'r flwyddyn 440, heb fod ymhell ar ôl i'r fyddin Rufeinig adael y wlad. Roedd Sant Padrig ei hun yn dychwelyd o daith genhadol o Iwerddon pan redodd ei long ar Ynys Padrig (Middle Mouse). Wrth frwydro o'r môr, daeth o hyd i  ogof gyda ffynnon dwr croyw (bellach wedi'i chuddio gan gwymp creigiau) ac yna mewn diolchgarwch am ei ddihangfa sefydlodd eglwys ar y pentir a ddisgrifiwyd yn ddiweddar gan neb llai na'r Dalai Lama fel 'y man mwyaf heddychlon ar y ddaear'.

 

Er nad oes dim yn weddill o'r adeilad pren gwreiddiol, mae'r eglwys heddiw yn dyddio'n rhannol i'r 12fed a'r 13eg ganrif (corff a'r maen bedydd), gyda changell hir wedi'i hychwanegu gan mlynedd yn ddiweddarach. Nid tan 1884 y bu adnewyddiad sylweddol, a ariannwyd gan Henry Stanley, 3ydd Barwn Alderley a pherchennog Ystâd Penrhos ar Ynys Cybi. Gan i fod wedi cael tröedigaeth i Islam, nododd y dylai'r ffenestri lliw ddangos dyluniadau geometrig yn hytrach na'r golygfeydd a chymeriadau Beiblaidd traddodiadol. Mae'r teils wal las trawiadol yn y cangell yn defnyddio patrymau geometrig neu flodau tebyg.

 

Yn 1884 darganyddwyd Carreg Icthus sydd bellach yn sefyll yng nghefn yr eglwys. Gyda'i gerfiadau syml o symbol Cristnogol o bysgodyn (roedd y gair Groegaidd am bysgod sef 'ichthus', yn acrostig i Iesu Grist) a palmwydden (sy'n arwydd o fuddugoliaeth dros farwolaeth), mae hwn mwy 'na thebyg yn garreg fedd o'r 9fed - 11eg ganrif. Hefyd yn cael ei arddangos mae panel allor pren cain o 1430 sy'n dangos dau wyneb dyn mewn proffil.

 

Yn yr 1980au bu gwaith adfer mawr eto ar ôl i'r eglwys gael ei difrodi'n wael gan dân. Mae'n dal i gael ei ddefnyddio'n rheolaidd i addoli ac mae'n un o dair eglwys fach sydd wedi'u dynodi'n 'betysau' neu'n 'dai gweddi' yn Ardal Weinidogaeth Bro Padrig.


Mae'r wybodaeth yma hefyd yn ymddangos ar safle we Explore Churches, gwefan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol 
 

DSC_1452.jpg

Eglwys Llanbadrig

LLEOLIAD

LL67 0LH
what3words: tirfesur.crwydrwr.dweud

Am fwy o wybodaeth a lleoliad yr Eglwys ewch i Explore Churches, gwefan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol lle gallwch ddod o hyd i fap yn dangos lleoliad yr eglwys.

 

AMSEROEDD AGOR:
Ar agor bob amser.

bottom of page