top of page
IMG_3681.JPG

Sant Maethlu, Llanfaethlu

O'i leoliad ar ben y bryn ar gyrion y pentref, mae eglwys restredig Gradd II * Sant Maethlu yn cynnig golygfeydd dros Fôr Iwerddon a hefyd ystâd Carreglwyd, y plasty Sioraidd y mae'n rhannu cysylltiadau hanesyddol ag ef.

 

Ychydig o fanylion a gofnodir am fywyd Maethlu. Dywedir iddo sefydlu meudwy (hermitage) o fewn milltir i'r eglwys bresennol. Fe'i gelwir hefyd yn Amaethlu, a ganwyd c.520, yn fab i Caradoc Freichfras ('Braich Gadarn') ap Ynyr, un o Farchogion y Ford Gron a Brenin Gwent yn Ne Cymru. Mae ei deitl - 'Maethlu'r Cyffeswr' - yn dynodi rhywun o statws ysbrydol nodedig, oedd efallai'n cynnig maddeuant pechodau i'r rhai sy'n gwneud cyffesiad.

 

Mae llawer o'r adeilad ganoloesol yr eglwys dal i fodoli, gan gynnwys y porth o'r 15fed ganrif gyda'i feinciau cerrig a chwpl o ffenestri ar ochr ddeheuol corff yr eglwys. Mae'r eglwys hefyd yn dal llawer o gofebau i deulu Griffiths o Carreglwyd, gan gynnwys pew godidog gyda cherfiad cywrain yn ymgorffori crib y teulu ac arwyddair Lladin. Gellir olrhain y cysylltiad rhwng yr eglwys a'r tÅ· yn ôl i 1544 pan brynodd y rheithor, William Griffiths dÅ· lleol, Ty'n y Pant, am £700. Adeiladodd ei ŵyr (Dr William Griffiths, Canghellor Eglwys Gadeiriol St Asaph) y Carreglwyd presennol  ym 1634.

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd yn ymddangos ar safle we ExploreChurches, gwefan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol .

LLEOLIAD

LL65 4NR
what3words: sengl.olifau.diferyn

Am fwy o wybodaeth a lleoliad yr Eglwys ewch i Explore Churches, gwefan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol lle gallwch ddod o hyd i fap yn dangos lleoliad yr eglwys.

 

AMSEROEDD AGOR:
Os hoffech ymweld a'r Eglwys, ffoniwch Mrs Ellen Anne Parry (01407) 730491.

StMaethlu.JPG
bottom of page