top of page
DSC_1449.jpg

CROESO I BRO PADRIG

RHOI YN SYTH 

Mae rhoi yn syth yn cefnogi gweinidogaeth ein clerigon a'n
heglwysi. 


Sganiwch y côd QR i ddarganfod mwy ac i'n cefnogi ni.

AMDANOM NI

PWY YDYM NI?

Rydym yn rhan o Esgobaeth Bangor yn yr Eglwys yng Nghymru (Anglicanaidd) ond mae croeso i bawb ddod i'n gwasanaethau. Arweinir y tîm weinidogaeth gan y Parchg Naomi Starkey.

 

BLE RYDYM NI?

Mae Bro Padrig yn ymestyn ar draws gogledd Ynys Môn, o Lanbadrig i Lanfaethlu, ac mae'n cynnwys Cemaes, y gymuned fwyaf gogleddol yng Nghymru.

 

Pentrefi Cemaes a Llanfechell yw 'hybiau' ein gweinidogaeth. Rydym hefyd yn cynnal gwasanaethau mewn tri 'betysai' bach a hardd ('tai gweddi'), eglwysi Llanbadrig, Llanrhwydrys a Llanfflewin.

 

I ddysgu mwy am eglwysi Bro Padrig, cliciwch ar eu henwau: Cemaes, Llanfechell, Llanbadrig, Llanfflewin, Llanrhwydrys, Llanfaethlu, Llanfairynghornwy ar y gwymplen yn y fwydlen uchod.

 

BETH RYDYM YN EI WNEUD?
Sgroliwch i lawr am wybodaeth ynglyn â gwasanaethau a Digwyddiadau.

 

Diolch i Gwyn Williams am fod mor hael gyda'i amser a'i greadigrwydd i ddarparu nid yn unig luniau ond fideos y gallwn eu defnyddio ar y wefan hon .

GWASANAETHAU A DIGWYDDIADAU

GWASANAETHAU

 

GWLER ISOD GWYBODAETH AM EIN GWASANAETHAU A DIGWYDDIADAU. BYDD Y GWYBODAETH DIWEDDARAF HEFYD AR  EIN TUDALEN FACEBOOK.

 

Mae'r holl wasanaethau'n defnyddio Saesneg a Chymraeg.

 

DYDD SUL:
Mae gwasanaethau Cymun Bendigaid (Gweddi Foreol yn achlysurol) yn digwydd yn eglwysi Llanfechell (9.30am) a Cemaes (11am). Cynhelir Gweddi Foreol yn eglwys Llanfair yng Nghornwy ar y pedwerydd Sul o bob mis (11am).


 Yn St Fflewin, Llanfflewin nid yw gwasanaethau 2024 wedi cael ei drefnu eto.

 Yn St Maethlu, Llanfaethlu, bydd gwasanaeth (Cymun Bendigaed fel arfer) yn cael eu cynnal am 2.30pm ar ddydd Sul cyntaf o'r mis.

 

DYDD MAWRTH:
Gweddi Tawel (9.30am am hanner awr) yn Eglwys Llanbadrig. 
  Mae'r eglwys bob amser ar agor ac mae croeso i bawb ddod i weddïo, myfyrio neu fwynhau moment neu ddwy o heddwch.
Gweddi Tawel (11am am hanner awr) yn Eglwys St Maethlu, Llanfaethlu.

​

DYDD MERCHER :
Cymun Bendigaid am 10.30am yn Eglwys Cemaes, gyda ffocws arbennig ar ymbiliau.

 

Rydym yn  mwynhau lluniaeth gyda'n gilydd ar ôl Addoliad Dydd Mercher, sydd hefyd pan fyddwn ni'n ymgynnull yn ystod y Grawys a'r Adfent am gyfnod o fyfyrio a thrafod.

 

Yn Eglwys Llanrhwydrys cynhelir Seibiant Sanctaidd 2023 sef hwyrol weddi ddwyieithiog am 4pm ar ddydd Mercher at y dyddiadau canlynol: 
8 Mai / 5 Mehefin / 4 Gorffennaf / 7 Awst a 4 Medi.

​

DIGWYDDIADAU
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau'r Eglwysi ewch i'n tudalen Facebook.

AM

MWY O WYBODAETH

Am fwy o wybodaeth am fedyddiadau a phriodasau yn ein heglwysi a hefyd am angladdau yn ein mynwentydd, gwelwch y tudalen o dan Digwyddiadau Bywyd ar y fwydlen uchod.

IMG_3681.JPG

Ymchwilio i hanes eich teulu

Os ydych chi'n ymchwilio i hanes eich teulu a bod gennych gysylltiadau ag un neu fwy o'n heglwysi, mae croeso i chi gysylltu. 

bottom of page